Uwch-gyfieithwyr (cyfieithydd ar y pryd) – Cymraeg yn hanfodol

Welsh Government

Cardiff £37,111 Contract On-site Closes 21 Sep 2026
Apply now

Uwch-gyfieithwyr (cyfieithydd ar y pryd) – Cymraeg yn hanfodol at Welsh Government in Cardiff

About the role

  • Vacancy details
  • Vacancy title
  • Uwch-gyfieithwyr (cyfieithydd ar y pryd) – Cymraeg yn hanfodol
  • Closing date
  • 21/09/2026, 16:00
  • Advertising basis
  • Fixed Term, Permanent
  • Actual starting salary

Bydd cyflog cychwynnol rhwng £37,111 a £41,834 yn cael ei gynnig i ymgeiswyr llwyddiannus ar lefel HEO, a rhwng £30,754 a £34,997 i ymgeiswyr llwyddiannus ar lefel EO. Bydd hyn yn seiliedig ar eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad, a’u perfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon

  • Salary range or pay band
  • HEO £37,111 to £45,378
  • Allowances
  • No
  • Work pattern
  • Full time (applications are welcome from people who work part time, as part of a job share or who work full time)
  • Group
  • Operational Effectiveness Group
  • Directorate
  • Pobl a Lleoedd
  • Branch
  • Gwasanaeth Cyfieithu
  • Location (s)
  • Cardiff
  • Main office base
  • Cathays, Cardiff
  • Purpose of post

Pwrpas swyddi cyfieithwyr ar y pryd yw cynorthwyo Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion, a chefnogi’r Llywodraeth i gydymffurfio â gofynion ieithyddol statudol. Maent yn swyddi sy’n gwbl ganolog wrth i’r Llywodraeth gyfathrebu negeseuon allweddol â’r cyhoedd.

Bydd pob cyfieithydd ar y pryd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd, ond gan wneud peth gwaith cyfieithu testun hefyd.

Bydd pob cyfieithydd ar y pryd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu testun hefyd, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.

Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i gyfieithwyr ar y pryd hyfforddi a goruchwylio cyfieithwyr ar y pryd llai profiadol. Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldebau rheoli llinell.

Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i gyfieithwyr ar y pryd gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminoleg.

Key tasks

Cyfieithu ar y pryd

Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn cyfarfodydd Gweinidogol, gan baratoi’n drylwyr ar eu cyfer. Bydd rhai cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac eraill drwy Microsoft Teams neu’n gyfuniad o’r ddau.

Bydd cyfieithwyr ar y pryd profiadol yn cyfieithu ar eu pen eu hunain neu mewn pâr, gan ddibynnu ar natur y cyfarfod.

Cefnogi’r Gwasanaeth Cyfieithu i sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau drwy gadw cofnod o’r amser a dreuliwyd yn cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd er mwyn cynnal a gwella ansawdd y gwasanaeth.

Sicrhau ansawdd

Sicrhau bod eich cyfieithu ar y pryd yn gywir, yn rhugl ac yn hyderus ac yn cydymffurfio bob amser â therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y maes pwnc dan sylw.

Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, gan oruchwylio a chynorthwyo cyfieithwyr ar y pryd llai profiadol.

Cyfrannu at broses i fonitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Gwasanaeth i gwsmeriaid

Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.

Parchu cyfrinachedd ac ymdopi â gweithio mewn awyrgylch wleidyddol.

Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.

Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.

Arddull a therminoleg

Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng TermCymru.

Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar BydTermCymru.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Gosod offer cyfieithu ar y pryd symudol yn hyderus ac effeithiol.

Deall a chynghori cwsmeriaid yn ôl y gofyn ar ddefnyddio’r dechnoleg yn briodol i hwyluso cyfieithu ar y pryd drwy Teams neu mewn sefyllfaoedd hybrid.

Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd. Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.

Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.

Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol

Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr ar y pryd llai profiadol.

Cyfieithu ysgrifenedig

Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg pan na fydd galw am gyfieithu ar y pryd. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.

Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau

Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn rhan o’r gwasanaeth gwirio testun, adolygu gwaith swyddogion yn y sefydliad ehangach sy’n drafftio yn Gymraeg.

Cyffredinol

Cynorthwyo’r Arweinwyr Timau i ddyrannu gwaith, gan ddirprwyo ar eu rhan yn ôl y gofyn.

Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.

Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu

Development opportunities

Gweithio mewn gwasanaeth mawr, amlddisgyblaeth a datblygu neu fireinio ystod dda o sgiliau arbenigol yn y maes cyfieithu, ee cyfieithu deddfwriaethol, rheoli terminoleg, a defnyddio cofau cyfieithu a chyfieithu peirianyddol.

Datblygu’ch gallu i reoli a datblygu staff.

Atgyfnerthu’ch sgiliau adolygu gwaith (gan gynnwys ôl-olygu, gwirio testun a phrawfddarllen) a chyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd y Gwasanaeth.

Datblygu ac ehangu’ch gyrfa oddi mewn i’r proffesiwn cyfieithu, a chymryd cyfrifoldebau uwch am wasanaethau cyfieithu, ee cynorthwyo’r arweinyddion timau i ddyrannu gwaith; cyfrannu at swyddogaethau neu brosiectau arbenigol ym maes cyfieithu, terminoleg a thechnoleg gyfieithu; a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol.

Cefnogaeth i sefyll profion aelodaeth cymdeithasau cyfieithu proffesiynol, megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr ITI/IOL (Institute of Translation and Interpreting / Institute of Linguists). Telir y ffioedd aelodaeth gan y Gwasanaeth Cyfieithu.

Cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y proffesiwn cyfieithu yn Llywodraeth Cymru a rhoi syniadau newydd ar waith.

Cyfle i wneud cyfraniad allweddol at weithredu rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ers lles trigolion Cymru.

Other vacancy related information

Dylech gyflwyno’ch cais yn Gymraeg.

Bydd hon yn broses recriwtio dri cham; bydd rhaid llwyddo yn y cam cyntaf i fynd i’r ail gam, etc:

Cam 1

  • Sifft – asesiad o’r wybodaeth ar y ffurflen gais

Cam 2

– prawf cyfieithu ar y pryd ac ysgrifenedig

Prawf Cyfieithu ar y pryd: cynhelir hwn yn swyddfeydd y Llywodraeth yng Nghaerdydd. Gofynnir i’r ymgeiswyr gyfieithu dau ddarn oddeutu 10 munud yr un. Rhoddir amser i’r ymgeiswyr ddarllen gwybodaeth am y darnau ymlaen llaw.

Ysgrifenedig:

Prawf heb ei amseru: ar ôl y dyddiad cau, bydd yr ymgeiswyr yn derbyn darn tua 300 o eiriau i’w gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Caniateir o leiaf 5 diwrnod gwaith i’r ymgeiswyr gyfieithu’r darn yn eu hamser eu hunain.

Prawf wedi ei amseru: bydd yr ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i brawf o dan amodau arholiad (i’w gynnal yn rhithiol). Bydd un darn, tua 300 o eiriau, i’w cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Caniateir awr ar gyfer y prawf.

Caiff y profion eu marcio’n ddienw gan aelodau o staff y Gwasanaeth Cyfieithu.

Defnyddir grid marcio arferol y Gwasanaeth Cyfieithu, sy’n rhoi canlyniad “Anfoddhaol”, “Addawol”, neu “Boddhaol”. Bydd dau ganlyniad – un yr un ar gyfer y prawf cyfieithu ar y pryd a’r prawf cyfieithu ysgrifenedig. Rhaid cael o leiaf un canlyniad “Boddhaol”, ac un canlyniad “Addawol” neu “Boddhaol”, i basio’r cam hwn.

Cam 3

  • Cyfweliadau (drwy Teams).

Dyma amcan o’r amserlen (a all newid):

  • Dyddiad cau – Medi 2026
  • Canlyniadau’r sifft – Medi 2026
  • Profion – Hydref 2026
  • Canlyniadau’r profion – Hydref 2026
  • Cyfweliadau – Hydref 2026
  • Canlyniadau’r cyfweliadau – Tachwedd 2026

Dyddiadau dechrau – dibynnol ar hyd y gwiriadau cyn cyflogi a’r cyfnod rhybudd.

Meini Prawf Hanfodol

Mae sgiliau'r Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'n rhaid cwblhau pob cais a'i gyflwyno yn Gymraeg, a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gradd neu gymhwyster cyfatebol (e.e. gradd-brentisiaeth, dyfarniad lefel 6 neu NVQ lefel 6) mewn iaith, ieithyddiaeth, neu unrhyw bwnc perthnasol arall.

Profiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd ar y pryd

Gellir cadw rhestr wrth gefn ar gyfer y cyfle hwn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy'n llwyddiannus wrth gael cynnig statws wrth gefn, yn aros ar y rhestr wrth gefn am 12 mis.

Gellir hefyd ystyried penodi ymgeiswyr i swydd Cyfieithydd ar radd EO os nad ydynt yn bodloni’r safon ofynnol ar gyfer y radd hon, ond yn dangos potensial ar y radd is, yn ddibynnol ar anghenion busnes. Bydd cynllun datblygu strwythuredig yn cael ei lunio ar gyfer unrhyw ymgeiswyr o’r fath, a chynigir cyfle i wneud cais am ddyrchafiad ar ôl lleiafswm o 6 mis.

Mae’r rhan fwyaf o’r galw am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ym mhrif swyddfeydd y Llywodraeth, yng Nghaerdydd. Lleolir y swyddi hyn yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd felly, oherwydd natur y gwaith. Gall fod angen teithio ar brydiau i ddarparu’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn lleoliadau eraill.

Rydym yn cefnogi Gweithio Deallus, sef dull hyblyg, cynhwysol a diogel o weithio sy’n cydbwyso anghenion y sefydliad a llesiant unigolion. Mae’r rhan fwyaf o’n cydweithwyr yn treulio tua 40% o’u hamser gwaith, oddeutu deuddydd yr wythnos, mewn swyddfa – pro rata i gydweithwyr rhan-amser – i gefnogi cyswllt, cydweithredu a chyflawni. Treulir gweddill yr wythnos mewn lleoliad arall neu gartref.

Cliciwch ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cyfieithu:

  • Ynghylch Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU
  • Vetting level
  • Basic
  • Number of posts
  • 2
  • Contact point for further information regarding the post
  • Swyddi.Cyfieithu@llyw.cymru
  • Welsh language requirements
  • Welsh language requirements

1 - Welsh language skills are essential for this role. The skills required for this role are specified below. These skills will be assessed as part of the selection process. For further information on the Welsh language levels, please visit our website.

  • Understanding by reading
  • 5 - Full understanding of all work related material
  • Speaking and being understood
  • 5 - Fluent
  • Understanding by listening
  • 5 - Can understand all work-related conversations
  • Writing and being understood
  • 5 - Can prepare written material for all work-related matters
  • Working for the Civil Service
  • The
  • Civil Service Code

sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

The Use of Artificial Intelligence (AI)

Artificial Intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our

AI candidate guidance

for more information on appropriate and inappropriate use.

Selection Process and Stages

Welsh Government, like all other Government Departments use Success Profiles when we recruit. For each role we consider what you will need to demonstrate to be successful. This gives us the best possible chance of finding the right person for the job. It raises performance and improves diversity and inclusivity.

The selection process and stages are:

Number of Stages:

  • 3 stage process
  • Stage 1
  • Application Form
  • Stage 2
  • Online Test
  • Stage 3
  • Interview
  • Behaviours

We’ll assess you against these Behaviour criteria during the selection process.

Behaviour 1:

Managing a Quality Service

Cyflawni canlyniadau o safon uchel sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid yn llwyddiannus ac yn rhoi gwerth am arian.

This will be tested at stage 1: Application Form

This will be tested at stage 3: Interview

Behaviour 2:

Leadership

Sicrhau bod gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o amcanion, gweithgareddau a fframiau amser.

This will be tested at stage 3: Interview

Behaviour 3:

Making Effective Decisions

Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.

This will be tested at stage 3: Interview

Experience

We'll assess you against the following Experience criteria during the assessment process.

Evidence to provide

Experience questions

Experience 1:

A oes gennych radd neu gymhwyster cyfatebol a phrofiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd ar y pryd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf?

  • This will be tested at Stage 1: Application Form
  • This will be tested at stage 3: Interview
  • Technical

We'll assess the following Technical skills during the selection process.

Technical 1:

Sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r gallu i gyfieithu ar y pryd ar lein ac wyneb yn wyneb mewn gwahanol sefyllfaoedd yn ogystal â chyfieithu testunau Llywodraeth Cymru mewn amryw arddulliau.

This will be tested at stage 2: Online Test

Technical 2:

Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â’r gallu a’r parodrwydd i’w datblygu ymhellach.

  • This will be tested at stage 1: Application Form
  • This will be tested at stage 3: Interview
  • Eligibility

You will be asked about your nationality and if you are legally allowed to work in the United Kingdom. This is to find out if you are eligible to apply for this vacancy. This is a requirement for working within the Civil Service.

https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules

If you do not meet the eligibility criteria your application will not progress. If it becomes clear at a later stage in the process that you are not eligible to apply, your application may be withdrawn, or the offer retracted.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service

Social Model of Disability

Welsh Government has adopted the social model of disability, which recognises that barriers in society

act to disable people who have impairments, or health conditions, who are neurodivergent or who use British Sign Language.

We are committed to removing barriers in the recruitment process so that all (or potential new) staff can perform at their best.

Recruitment adjustments can be made at any part of the recruitment process for candidates with an impairment or health condition, who are neurodivergent or who use British Sign Language.

Please get in touch with

DiversityInRecruitment@gov.wales

to discuss adjustments for any part of the process.

  • Inclusive Interview Schemes
  • We are committed to inclusive recruitment and offer interviews to eligible candidates who meet the
  • minimum criteria

for the role through the following schemes:

Disability Confident

The Welsh Government is a Disability Confident Leader. As part of our commitment to this scheme we interview any candidate with an impairment, health condition, who is neurodivergent or who uses British Sign Language if they meet the

minimum criteria

for the post.

A Great Place to Work for Veterans

The Welsh Government operates the Great Place to Work for Veterans Initiative. As part of our commitment to this scheme we interview any eligible candidates who meet the

minimum criteria

for the post.

Redeployment Interview Scheme

Civil Service employers can offer an interview to a fair and proportionate number of civil servants who are at risk of redundancy and who meet the

  • minimum criteria
  • for the post
  • By ‘
  • minimum criteria

’ we mean that candidates must provide us with evidence in their application (and/or test) that they meet the minimum level of competence for the role - usually defined as

a minimum score of 4 per criterion.

Social Partnership

In Welsh Government, the relationship between the employer and trade unions is based on social partnership. We believe our goals can best be achieved by management and trade unions working together.

Our 3 recognised trade unions are:

  • PCS
  • Prospect
  • FDA

This relationship is underpinned by a partnership agreement. This sets out how our unions work with Welsh Government on issues such as:

  • Pay
  • Terms and conditions
  • HR Strategy, policies and procedures
  • Health, safety and well-being
  • Organisational change

Our Welsh Government trade union colleagues work together to give their members a real say in the workplace. They make sure that the interests of their members are promoted and protected. They also help reduce inequalities and improve terms and conditions.

The Welsh Government has an excellent track record of working in partnership with its trade unions. We support you to join a recognised trade union, to ensure your voice is heard in the workplace. We encourage you to learn more about our trade unions, partnership working and to get involved in their work.

Benefits

All Welsh Government staff are members of the Civil Service, and as a result are eligible for:

  • Civil Service Pension Scheme
  • 31 days annual leave (pro-rated for part time)
  • training and development opportunities
  • Cycle2Work Scheme
  • Smart Working flexible working arrangement
  • Green Car Scheme (subject to availability)

If you are an active Civil Service Pension member you can continue your membership throughout your employment with us.

  • Recruitment principles and complaints
  • We recruit by merit on the basis of fair and open competition. Please see the
  • Civil Service Commission's recruitment principles

on the Commission's website.

If you feel your application has not been treated in accordance with these principles and wish to make a complaint please email

complaints@gov.wales

. Please ensure that you refer to the vacancy reference number.

If you are not satisfied with the response you receive from the Welsh Government, you can contact the Civil Service Commission:

info@csc.gov.uk.

Apply
Report this jobNever pay anyone or provide your bank details for a job