Swyddog Cefnogi Busnes - Uned Cefnogi Teuluoedd

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County...

Holyhead LL65 2HR £25,989 - £27,254 a year Permanent On-site
Apply now

About the role

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae’r rôl yn golygu darparu cymorth busnes a gwasanaeth cofnodi proffesiynol ar gyfer prosiectau’r Uned Cefnogi Teuluoedd. Mae’r rôl yn golygu rheoli materion sensitif a chymhleth ac felly bydd angen llawer o wydnwch emosiynol. Mae’r swyddogaeth cymorth busnes yn hanfodol i hwyluso a chydlynu gwasanaethau, sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaethau Diogelu Data a gweithdrefnau mewnol a chwrdd ag amserlenni mandadol. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac o ansawdd uchel, gan lynu wrth werthoedd craidd y sefydliad, polisïau'r adran ac amcanion penodol. Hefyd, mae’r rôl yn golygu gweithredu fel pwynt cyswllt a chynorthwyo’r rheolwr llinell yn eu habsenoldeb, sicrhau parhad gwasanaethau a swyddogaethau gweithredol o fewn yr Uned Cefnogi Teuluoedd.

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

  • Manylion cyswllt
  • Enw: Rachel H Owen
  • Rhif ffôn: 01407 767784
  • Cyfeiriad e-bost: rachelhowen@ynysmon.llyw.cymru
  • Job Reference: CORP100586
Apply(opens in a new tab)
Report this job