Team Leader (Section 278 / 38 Road Safety)
Team Leader (Section 278 / 38 Road Safety) at Cardiff Council in Cardiff (Caerdydd)
About the role
About The Service
Cardiff is one of the UK’s fastest‑growing and most vibrant cities, with major regeneration schemes, new communities and significant investment shaping its future. As Wales’s capital, it blends a dynamic urban environment with coastal and green spaces, creating an exceptional place to live, work and develop your career. With continued growth in housing, transport and infrastructure, this is an exciting time to join us. This role within the Transport Service Area offers an exciting opportunity to influence high‑profile developments, ensure high‑quality public infrastructure, and help deliver a safer, better‑connected Cardiff for current and future generations.
About the job
Cardiff Council is seeking an experienced and self-motivated Team Leader for our s278/s38 Team, responsible for overseeing the assessment, approval and delivery of highway works associated with new developments across the city. This is a key leadership role within a high‑profile service that ensures safe, high‑quality and compliant infrastructure is delivered through Section 278 and Section 38 agreements.
You will lead a busy multidisciplinary team, manage technical approvals, coordinate legal agreements, and act as a primary point of contact for developers, consultants, internal teams and elected members. You will oversee inspections, ensure adherence to standards, manage budgets, and guide the adoption of completed highway assets.
What We Are Looking For From You
The successful candidate will bring strong experience in highways or transport engineering, a sound understanding of the Highways Act 1980, excellent communication skills, and the ability to manage multiple projects in a fast‑paced environment. Experience of technical review, budget management and collaborative working is essential.
Key Responsibilities of the role will include:
Lead and manage the s278/s38 Team, ensuring effective coordination, technical assessment and delivery of developer‑funded highway works.
Oversee the preparation, negotiation and progression of Section 278 and Section 38 legal agreements and the associated technical approvals.
Manage inspections of highway works and ensure construction aligns with approved designs and safety requirements.
Coordinate handover and adoption of completed highway infrastructure, ensuring all records and asset information are accurate.
Liaise collaboratively with internal departments to ensure integrated and compliant scheme delivery.
Provide technical advice, reports and updates to senior management and Members.
Contribute to policy development, guidance updates and annual review of highway standards.
- Arweinydd Tîm (Adran 278/38)
- Cyfeirnod: PLA00489
- Ystod Cyflog: Gradd 10 - £48,226 - £51,356
- Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Caerdydd yw un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac un o’r dinasoedd mwyaf bywiog, gyda chynlluniau adfywio mawr, cymunedau newydd a buddsoddiad sylweddol yn ffurfio ei dyfodol. Fel prifddinas Cymru, mae'n cyfuno amgylchedd trefol deinamig gyda mannau arfordirol a gwyrdd, gan greu lle eithriadol i fyw, gweithio a datblygu eich gyrfa. Gyda thwf parhaus mewn tai, trafnidiaeth a seilwaith, mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Mae'r rôl hon yn y Gwasanaeth Trafnidiaeth yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddatblygiadau proffil uchel, sicrhau seilwaith o safon, a helpu i greu Caerdydd fwy diogel, gyda chysylltiadau gwell ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.
Ynglŷn â’r swydd
Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Arweinydd Tîm profiadol a hunan-gymhellol ar gyfer ein Tîm s278/s38, sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o asesu, cymeradwyo a chyflawni gwaith priffyrdd sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd ledled y ddinas. Mae hon yn rôl arwain allweddol mewn gwasanaeth proffil uchel sy'n sicrhau bod seilwaith diogel, o ansawdd uchel, sydd yn cydymffurfio, yn cael ei ddarparu trwy gytundebau Adran 278 ac Adran 38.
Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol prysur, yn rheoli cymeradwyo technegol, yn cydlynu cytundebau cyfreithiol, ac yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt i ddatblygwyr, ymgynghorwyr, timau mewnol ac aelodau etholedig. Byddwch yn goruchwylio arolygiadau, yn sicrhau cadw at safonau, yn rheoli cyllidebau, ac yn arwain mabwysiadu asedau priffyrdd wedi'u cwblhau.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â phrofiad cryf mewn priffyrdd neu beirianneg trafnidiaeth, dealltwriaeth gadarn o Ddeddf Priffyrdd 1980, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i reoli prosiectau lluosog mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Mae profiad o adolygiad technegol, rheoli cyllideb a gweithio ar y cyd yn hanfodol.
Bydd Cyfrifoldebau Allweddol y rôl yn cynnwys:
Arwain a rheoli'r Tîm s278/s38, gan sicrhau cydlynu, asesu technegol a chyflwyno gwaith priffyrdd wedi ei ariannu gan ddatblygwr yn effeithiol.
Goruchwylio’r gwaith o baratoi, negodi a dilyniant cytundebau cyfreithiol Adran 278 ac Adran 38 a'r gymeradwyaeth dechnegol gysylltiedig.
Rheoli arolygiadau o waith priffyrdd a sicrhau bod adeiladu yn cyd-fynd â dyluniadau cymeradwy a gofynion diogelwch.
Cydlynu’r gwaith o drosglwyddo a mabwysiadu seilwaith priffyrdd wedi'i gwblhau, gan sicrhau bod yr holl gofnodion a gwybodaeth am asedau yn gywir.
Cysylltu ar y cyd ag adrannau mewnol i sicrhau cyflawni cynlluniau integredig sy’n cydymffurfio.
Darparu cyngor technegol, adroddiadau a diweddariadau i uwch reolwyr ac Aelodau.
Cyfrannu at ddatblygu polisi, diweddariadau canllawiau ac adolygiad blynyddol o safonau priffyrdd.
